# Athrawes Nofio Cynorthwyol / Assistant Swim Teacher - Wrexham

**Company:** [Freedom Leisure](http://jobs.workable.com/companies/vHqzCiRavrRPzSrwybDC85.md)
**Location:** Wrexham, United Kingdom
**Workplace:** on site
**Employment type:** Temporary
**Department:** Waterworld Leisure & Activity Centre

[Apply for this job](http://jobs.workable.com/view/b13043cc-64ed-4d8e-a2d7-a1b0659b90a8)

## Description

**Ymunwch â’r Egni yn Freedom Leisure – Gwneud yn Dda, Teimlo’n Dda!**

Yn Freedom Leisure, mae popeth yn ymwneud ag awyrgylch cadarnhaol, pobl wych, a chael effaith go iawn. Ydyn, rydyn ni’n rhedeg cyfleusterau hamdden a diwylliannol, campfeydd, a phyllau nofio- ond wrth wraidd y cyfan, ein pobl ni sy'n gwneud y gwahaniaeth.

Fel un o ymddiriedolaethau hamdden elusennol blaenllaw'r DU, rydyn ni’n falch o'n cenhadaeth o Wella Bywydau Trwy Hamdden. Rydyn ni yma i helpu cymunedau i fyw bywydau iachach a hapusach trwy wneud ein canolfannau'n groesawgar, yn gynhwysol, ac yn hygyrch i bawb - oherwydd mae pawb yn haeddu teimlo'n dda. Rydyn ni i gyd am ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid anhygoel gyda gwên—bob dydd. Rydyn ni’n creu mannau lle mae pobl yn teimlo'n gartrefol, wedi'u cefnogi, ac wedi'u hysbrydoli.

Os ydych chi'n angerddol am helpu eraill ac yn caru creu profiadau gwych, byddwch chi'n teimlo'n gartrefol gyda ni. Nid oes angen i chi fod yn arbenigwr i ddechrau - byddwn yn rhoi'r holl hyfforddiant a chefnogaeth sydd eu hangen arnoch chi. Gyda dros 130 o ganolfannau ledled Cymru a Lloegr, mae yna lawer o le i dyfu. Mae llawer o'n tîm wedi adeiladu gyrfaoedd anhygoel gan wneud yr hyn maen nhw'n ei garu, gan helpu cwsmeriaid o ddydd i ddydd a gwneud i bobl deimlo'n dda.

Rydyn ni’n falch o fod yn weithle lle mae croeso i bawb, eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, a'u cefnogi i ffynnu—oherwydd pan fydd ein tîm yn adlewyrchu'r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu, rydyn ni i gyd yn tyfu'n gryfach gyda'n gilydd.

Os ydych yn hoffi siarad gyda phobl, dyma’r swydd yn bendant i chi. Rydym yn deall nad yw ymgysylltu gyda chwsmeriaid a chydweithwyr mor hawdd ag y mae’n swnio ac y bydd hyn yn datblygu weithiau gyda phrofiad. Fe fyddwn yn darparu’r holl hyfforddiant sydd ei angen i fod yn Athro Nofio llwyddiannus ond rydym hefyd yn credu fod cyflogi pobl o gefndiroedd cyflogaeth cymysg yn gallu cynnig buddion ehangach i’n tîm, gyda rhai ohonynt a allai fod yn eu swydd gyntaf erioed ac angen mwy o gefnogaeth oddi wrth eu rheolwr a chydweithwyr.

O fewn rôl Athrawes Nofio Cynorthwyol, fe fyddwch yn cyflwyno gwersi nofio i gwsmeriaid o bob oedran a gallu gan sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi ac yn cyflawni eu nodau.

Os ydych eisiau gwneud cynnydd pellach, fe fyddwn yn eich cefnogi trwy’r hyfforddiant ychwanegol hwn. Fe fydd gwneud hyn yn ffurfiol ac ar y swydd yn allweddol. Fodd bynnag, rydym hefyd yn gwerthfawrogi nad yw pawb eisiau ‘symud i fyny’r ysgol’ ac mae hynny’n hollol iawn gyda ni. Yr hyn sy’n wirioneddol bwysig yw eich bod yn hapus yn eich gwaith.

**Petai nifer uchel o geisiadau addas yn cael eu derbyn, efallai y bydd y broses derbyn ceisiadau ar gyfer y swydd yn cau cyn y dyddiad cais a bennir. Ymgeisiwch cyn gynted ag sy’n bosibl os oes gennych ddiddordeb.**

**Oriau: achlysurol pan fo angen**

**Join the Energy at Freedom Leisure – Do Good Feel Good!**

At Freedom Leisure, we’re all about positive vibes, great people and making a real impact. Yes, we run leisure and cultural facilities, gyms, and swimming pools - but at the heart of it all, it’s our people who make the difference.

As one of the UK’s leading charitable leisure trusts, we’re proud of our mission of Improving Lives Through Leisure.  We’re here to help communities live healthier, happier lives by making our centres welcoming, inclusive and accessible to everyone - because everyone deserves to feel good.  We’re all about delivering amazing customer service with a smile - every single day. We create spaces where people feel at home, supported and inspired.

If you’re passionate about helping others and love creating great experiences, you’ll feel right at home with us.  You don’t need to be an expert to get started - we’ll give you all the training and support you need. With over 130 centres across England and Wales, there’s loads of room to grow.  Many of our team have built amazing careers doing what they love, helping customers day-to-day and making people feel good.

We’re proud to be a workplace where everyone is welcome, valued and supported to thrive - because when our team reflects the communities we serve, we all grow stronger together.

If you like talking to people, this is definitely the role for you. We understand that engaging with customers and colleagues is not as easy as it sounds and sometimes comes with experience. We will provide all the training needed to be a successful Swim Teacher but we also believe that employing people from a mix of employment backgrounds can offer a wider benefit to our team, some of which might be in their first ever job and need more support from their manager and colleagues.

In the role of Assistant Swim Teacher, you will assist with swimming lessons to customers of all ages and abilities ensuring they feel supported and are achieving their goals.

If you want to progress further, we will support this through additional training, both formal and on the job will be key. However, we also appreciate that not everyone wants to ‘move up the ladder’ and that’s absolutely fine with us. What is really important is that you are happy in your work.

**In the event that a high volume of suitable applications are received, the post may close prior to the specified closing date. Please apply as soon as possible if interested.**

**Hours: Casual hours, as and when required**

## Requirements

**Gofynion -**

-   Cynorthwyo i blant ac/neu oedolion fel rhan o raglen gwersi nofio'r Ganolfan Hamdden, yn unol â chymwysterau, hyfforddiant a phrofiad
-   Cynorthwyo i oruchwylio cwsmeriaid yn y pwll nofio a'r cyffiniau, gan sicrhau eu diogelwch a'u disgyblaeth
-   Sgiliau cyfathrebu rhagorol gydag awydd gwirioneddol i weithio'n agos gyda chwsmeriaid
-   Y gallu i ddelio â phlant a'u rhieni
-   Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
-   Byddai cymhwyster dysgu nofio Lefel 1 yn ddymunol
-   Gwiriad DBS

\-

-   To assist children and/or adults as part of the Leisure Centre’s swimming lesson programme, according to qualification, training and experience

-   To assist in the supervision of customers in the swimming pool and surrounds, ensuring their safety and discipline
-   Excellent communication skills with a genuine desire to work closely with customers
-   An ability to deal with children and their parents
-   Welsh Language skills are desirable
-   Level 1 Swim Teaching qualification is desirable
-   Enhanced DBS check

## Benefits

**Rydym eisiau i chi fod wrth eich bodd yn dod i'r gwaith, gan deimlo'n iach, hapus a'ch bod yn cael eich gwerthfawrogi. Dyna pam rydym wedi datblygu pecyn buddion gyda chi mewn golwg, felly beth allwn ni ei gynnig i chi?**

-   Aelodaeth Rhatach i Staff (gan gynnwys aelodau o'r teulu)
-   Rhaglen Cymorth i Weithwyr: cyngor cyfrinachol, annibynnol a phroffesiynol 24/7
-   Cyngor ariannol
-   Oriau gwaith hyblyg
-   Cynllun buddion My Staff Shop i weithwyr, yn cynnig gostyngiadau ar docynnau sinema, teithio, e-dalebau stryd fawr, cardiau rhodd, diwrnodau allan, gweithgareddau hamdden a gwariant bob dydd
-   Gwyliau blynyddol â thâl
-   Cyfleon posibl am waith parhaol
-   Amrywiaeth o gynlluniau yswiriant a chynilo

**We want you to love coming to work, feeling healthy, happy and valued. That's why we've developed a benefits package with you in mind, so what can we offer you?**

-   Discounted Staff Membership (including family members)
-   Employee Assistance Programme: 24/7 confidential, independent and professional counselling
-   Financial advice
-   Flexible working hours
-   My Staff Shop employee benefits scheme, offering discounts on cinema tickets, travel, high street e-vouchers, gift cards, days out, leisure activities and everyday spending
-   Paid annual leave
-   Potential permanent work opportunities
-   Various insurance and savings schemes

**Dyddiad cau: 21 Awst 2026 / Closing date: 21st August 2026**

**Cyflog: hyd at £12.71 yr awr / Salary: up to £12.71 per hour**

**Mae Freedom Leisure yn falch o fod yn gyflogwr cyfle cyfartal.**

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed, ac rydym yn disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn.

\-

**Freedom Leisure is proud to be an equal opportunities employer.**

We are committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people, and vulnerable adults, and we expect all staff and volunteers to share this commitment.
